SL(5)398 - Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau yn darparu diweddariad technegol, gan sicrhau bod cynnyrch anifeiliaid yn parhau i fod yn ddiogel i ddefnyddwyr o ran y perygl o ddod i gysylltiad â gweddillion cyffuriau milfeddygol, ac yn gwahardd defnyddio rhai cyffuriau anghyfreithlon. Mae'r Rheoliadau hefyd yn sicrhau bod deddfwriaeth filfeddygol Cymru yn gyfoes, ochr yn ochr â deddfwriaeth gymharol y DU a'r UE.

Mae'r Rheoliadau yn cynnwys manylion ynghylch sylweddau gwaharddedig; samplu a dadansoddi; a throseddau, cosbau a chamau gorfodi dilynol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.2 (vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Mae Rheoliad 2(1) yn nodi nifer o ddehongliadau ar gyfer termau yn y Rheoliadau hyn. Mae'r testun Cymraeg yn nodi'n anghywir: “mae i “awdurdodiad marchnata” (“marketing authorisation”) yr un ystyr ag sydd i yn Erthygl 5.” Dylai ddarllen: “mae i “awdurdodiad marchnata” yr un ystyr ag sydd i (“marketing authorisation yn Erthygl 5…”.

Craffu ar y rhinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Daw'r Rheoliadau i rym ar 28 Mawrth 2019, a chawsant eu gosod ar 14 Mawrth. Felly, maent yn torri'r rheol 21 diwrnod yn adran 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn, ym mharagraff 2:

“The SI is being laid under the ‘Negative Procedure’ with deviation from the standard 21 day laying period. Breaching the 21 day rule will allow the Regulations to come into force before the 29th March when the UK withdraws from the EU, and on which date the Animals and Animal Products (Examination for Residues and Maximum Residue Limits) (Wales) Regulations 2019 will also be subject to amendment by the Rural Affairs (Miscellaneous Amendments) (Wales) (EU Exit) Regulations 2019 in order to ensure the effective operation of the Regulations following withdrawal of the UK from the EU. A breach of the 21 day rule is therefore thought necessary and justifiable in this case.”

Nodwn eglurhad y Llywodraeth ynghylch torri'r rheol 21 diwrnod yn yr achos hwn. Ar y cyfan, rydym o'r farn ei bod yn bwysig sicrhau bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym cyn y diwrnod arfaethedig ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, sef 29 Mawrth 2019.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Gwneir rhannau o'r Rheoliadau hyn wrth arfer y pwerau sydd wedi'u cynnwys yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a byddant yn dod yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 1 Ebrill 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.